Cwestiynau Cyffredin Ymuno ...

Beth all LINC y Gogledd ei wneud i mi?

Os ydych yn defnyddio llyfrgell gyhoeddus, gall LINC agor y drws ar amrywiaeth ehangach o lyfrau - niwroseicoleg, hanes teuluol, ffiseg niwclear, mae'r rhestr yn ddiddiwedd. Os ydych yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Bangor, mae'n golygu y gallwch drefnu i werslyfrau'r Brifysgol gael eu danfon i gangen leol eich llyfrgell gyhoeddus yn hytrach na mynd yr holl ffordd i'r brifysgol i'w casglu - neu beth am ofyn iddyn nhw ddanfon y nofel ddiweddaraf i lyfrgell y Brifysgol!

Sut mae LINC yn gwneud hyn i gyd?

Trwy wneud rhagor o lyfrgelloedd ar gael i chi yng Ngwynedd, Conwy a Môn. Mae cynllun LINC y Gogledd yn golygu bod defnyddwyr llyfrgelloedd cyhoeddus, llyfrgelloedd y Brifysgol a llyfrgelloedd Addysg Bellach yn gallu cael mynediad at lyfrgelloedd ei gilydd.

Sut mae ymuno?

Os ydych chi eisoes yn aelod o lyfrgell gyhoeddus, fe allwch chi drefnu bod llyfrau llyfrgell Prifysgol Bangor yn cael eu danfon i'ch cangen leol ac fe allwch eu benthyg heb wneud dim arall - holwch am y llyfr dan sylw wrth ddesg archebu eich llyfrgell gyhoeddus.

Gallwch fenthyca yn bersonol o Lyfrgell y Brifysgol, neu ddefnyddio llyfrau (heb eu benthyca) yn unrhyw Goleg Addysg Bellach, trwy lenwi ffurflen aelodaeth LINC (ar gael o'ch llyfrgell gyhoeddus neu i'w lwytho o wefan LINC). Ewch â'r ffurflen, a cherdyn aelodaeth eich llyfrgell gyhoeddus, at ddesg archebu'r 'llyfrgell bartner' lle'r ydych eisiau holi am lyfr.

Os ydych yn defnyddio llyfrgelloedd Prifysgol neu Goleg, y cyfan sy'n rhaid i chi ei wneud yw ymuno â'ch llyfrgell gyhoeddus leol.

Oes raid i mi fod o unrhyw oedran penodol i ddefnyddio LINC?

Nagoes, mae'n bosib i unrhyw un fod yn aelod cyn belled fod eu llyfrgell yn cymeradwyo hynny.

Sut gallaf ddarganfod pa lyfrau sydd yn y 'llyfrgelloedd partner'?

Trwy gatalogau'r llyfrgelloedd cyhoeddus, yn Llyfrgell y Brifysgol a Choleg Menai, fe allwch hefyd weld catalogau'r llyfrgelloedd partner, ac edrych ar y llyfrau sydd ganddynt. Gallwch weld pa lyfrau sydd yn llyfrgelloedd y Colegau Addysg Bellach eraill trwy fynd i'r llyfrgell ei hun a defnyddio'r catalog yno. Holwch y llyfrgellydd os nad ydych yn siwr sut i ddefnyddio'r catalog. Mae gwybodaeth ar wefan LINC hefyd am y pethau 'arbenigol' ym mhob llyfrgell.

Oes modd defnyddio catalogau'r llyfrgelloedd o gartref?

Oes - os oes gennych chi fynediad at y rhyngrwyd, mae catalogau'r llyfrgelloedd cyhoeddus, Llyfrgell y Brifysgol, a Choleg Menai, i'w gweld ar y we yn y cyfeiriadau hyn:

Llyfrgelloedd Cyhoeddus http://talisweb.talnet.gov.uk/

Llyfrgell y Brifysgol http://library.bangor.ac.uk

Coleg Menai http://www.menai.ac.uk/heri4

A fydd modd i mi fenthyca popeth?

Mae yna rai eitemau na allwch eu benthyca - fe gewch chi ragor o fanylion am hyn gan staff y llyfrgell.

Trwy ddod yn aelod o LINC, a fydd modd i mi ddefnyddio unrhyw adnoddau electronig?

Dim os nad ydynt ar gael yn agored beth bynnag - oherwydd cyfyngiadau trwyddedu, mae'n rhaid i lyfrgelloedd academaidd gyfyngu'r adnoddau hyn i'w staff a'u myfyrwyr eu hunain.

Lle mae'r llyfrgelloedd sydd ar gael, a sut gallaf ddod i wybod pryd maent ar agor?

Mae enwau a rhifau cyswllt yr holl lyfrgelloedd ar dudalen ganol y daflen hon.

Faint mae LINC yn ei gostio?

Mae benthyca yn bersonol o Lyfrgell y Brifysgol yn rhad ac am ddim. Mae'n bosib y bydd cost fechan am gael danfon y llyfrau i'ch llyfrgell gyhoeddus - holwch yn eich llyfrgell i gael gwybod y gost.

Ymhen faint o amser bydd y llyfrau yn fy nghyrraedd?

Rydym yn amcangyfrif, ar gyfartaledd, y bydd yn cymryd tua dwy wythnos i ddanfon y llyfrau.

Am faint y byddaf yn cael eu benthyca?

Bydd y cyfnod benthyca yr un fath â'r cyfnod benthyca arferol ar gyfer llyfrau o'r llyfrgell sy'n cyflwyno'r llyfrau i chi.

Ydy hi'n bosib adnewyddu llyfrau LINC drwy e-bost?

Os ydych wedi benthyg y llyfr yn bersonol o lyfrgell y Brifysgol, gellir gwneud hyn drwy e-bostio library@bangor.ac.uk . Os ydych wedi benthyg drwy eich llyfrgell gyhoeddus, bydd yn dibynnu ar eu polisïau hwythau.

A yw'n bosib gosod llyfr ar gadw os yw ar fenthyg?

Ydy, os ydych yn bwriadu benthyg y llyfr yn bersonol o lyfrgell y Brifysgol. Os ydych yn bwriadu benthyg y llyfr o'ch Llyfrgell Gyhoeddus, bydd angen i chi holi eich llyfrgell.

Sut mae cael gwybod mwy?

Fe gewch chi wybod mwy am LINC trwy holi yn eich llyfrgell leol, edrych ar wefan LINC, neu e-bostio neu ffonio'r cysylltiadau ar waelod y daflen hon.

Ystyr LINC yw "Libraries in Co-operation". Bellach, mae mwy ar gael na'r hyn sydd yn eich llyfrgell leol yn unig - os ydych yn aelod o unrhyw lyfrgell LINC, mae cynllun LINC yn golygu bod yr holl adnoddau yn llyfrgelloedd cyhoeddus a cholegau Môn, Conwy a Gwynedd, a Llyfrgell Prifysgol Cymru Bangor, ar gael i chi hefyd.